Measured Making: #150mm Challenge

Mae'r #150mm Challenge yn ddathliad o broses, defnydd, creadigrwydd a dyfeisgarwch mewn metel gyredig. Cychwynnodd yr Her pan osododd y darlithydd o Goleg Celf Henffordd, Ambrose Burne, ymarfer ‘ymgynhesu’ i'w fyfyrwyr, ymarfer mae'n gosod i'w hunan yn rheolaidd, sef creu rhywbeth diddorol o ddarn bach petryal o ddur, 150mm x 20mm sgwâr. Mae'r myfyrwyr yn cael tair wythnos i ddylunio a gwneud rhywbeth yn defnyddio'r maint penodedig o ddefnydd yn unig.