Ffôn: 01633 483321

Hanes

Bydd Llantarnam Grange yn dathlu 50 mlynedd fel Canolfan Gelfyddydau ar 30 Ebrill 2016.  Fodd bynnag, mae sylfeini'r tŷ yn dyddio o tua'r 12fed ganrif, pan safai ffermdy o'r enw Gelli Las ar y safle. Ar hyd y rhan fwyaf o'r cyfnod hwn, mae hanes Gelli Las wedi bod ynghlwm wrth hanes Abaty Llantarnam. Sefydlwyd yr Abaty yn Llantarnam gan fynachod Sistersaidd ym 1179. Meddiannodd y Sistersiaid ar leiniau anferth o dir, gan glirio fforestydd a sefydlu ffermydd mynachaidd a elwid yn faenorau (granges). Credir bod gan Abaty Llantarnam tua phedair ar ddeg o'r maenorau hyn, yn cynnwys Gelli Las.

Ar ôl diddymiad y mynachlogydd yn y 1530au, meddiannwyd yr Abaty gan William Morgan fel tŷ preifat ac fe'i hailadeiladodd gan ddefnyddio llawer o'r cerrig gwreiddiol.  Roedd hefyd yn berchen ar yr holl ystadau cysylltiedig, yn cynnwys Gelli Las, sy'n ymddangos yn arolwg y faenor ym 1634.  Trosglwyddwyd yr ystad ymlaen drwy'r teulu Morgan, ac ym 1707 cytunodd merched Syr Edward Morgan, Anne a Frances, i rannu'r ystadau.  Erbyn y 1830au roedd disgynnydd arall, Reginald James Blewitt, yn byw yno ac, i bob pwrpas, ailadeiladodd yr Abaty ym 1837.  Cafodd ei werthu i Syr Clifford Cory ym 1895 a bu hwn yn byw yno tan ei farwolaeth ym 1941. Ym 1946 daeth yr abaty'n gartref i Chwiorydd Sant Joseff, fel y mae hyd heddiw.

Ni wyddys pryd gwerthwyd Gelli Las a'i ddatgysylltu oddi wrth gweddill ystadau'r abaty: efallai digwyddodd hyn pan oedd yr ystadau'n cael eu rhannu ym 1707.  Fodd bynnag, rydym yn gwybod drwy'r ddogfen Dosrannu'r Rhent-dâl yn lle Degymau ym 1844 bod Gelli Las yn perthyn i John Lawrence ar yr adeg honno. Fe'i disgrifir fel ”cant a phum deg erw, yn rhydd o ddegwm drwy orchymyn, ac yn adnabyddus iawn.”

Gwerthodd John Lawrence Gelli Las i Henry Crawshay ym 1862, ac yn ei dro gwerthodd yntau'r eiddo i Alfred Colerick Pilliner ym 1871. Mae Pilliner yn adnabyddus fel Ynad Heddwch ac un o brif dirfeddianwyr yr ardal. Yn ôl y sôn, roedd Eglwys y Drindod Sanctaidd ym Mhontnewydd, Cwmbrân yn meddu ar sgrin dderw a osodwyd er cof am Mrs Pilliner o Llantarnam Grange.

Fferm Llantarnam Grange yn y 1920au

Rhywbryd yn ystod y 19eg ganrif newidiwyd Gelli Las o fod yn ffermdy i gartref bonheddwr, yn ôl pob tebyg gan A.C. Pilliner gan y gwelir ei lythrennau blaen ar blac uwchlaw'r ffenestri bae.  Mae'n debyg ei fod hefyd yn gyfrifol am newid yr enw i Llantarnam Grange – teitl oedd efallai'n fwy cydnaws â'i gartref newydd crand, ac a gyfeiriai at ei hen hanes. Trosglwyddwyd y meddiant i deulu Pilliner pan fu farw ym 1887 a chafodd ei werthu ym 1905. Ni wyddys llawer am ei berchnogion tan 1914 pan oedd Mr John Fox-Tallis yn byw yn y Grange ac yn cael ei gofnodi fel un o drigolion blaenllaw'r ardal.

Tua 1932, prynwyd Llantarnam Grange gan William Thomas Jones a oedd yn Rheolwr-Gyfarwyddwr Gwaith Tunplat Avondale.  Roedd ganddo ef a'i wraig, Margaret, a fu farw ym 1911, bedwar o blant – Thomas, Wilfred, Arthur a Jesse.

William Jones, preswylydd olaf Llantarnam Grange

Mae Richard, mab Thomas, wedi dweud wrthym sut oedd yn cofio'r tŷ, er enghraifft chwarae gyda threnau model dan y bwrdd biliards, sglefrio ar y pwll pan oedd wedi rhewi, a sioeau llusernau hud yn y seleri.  Roedd gan y Grange berllan a gardd lysiau fawr, a ganiataodd iddynt fod yn hunangynhaliol fwy neu lai yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Roedd y gerddi'n arwain i lawr at Grange Road (nid oedd Heol Dewi Sant wedi cael ei hadeiladu bryd hynny); roedd lawnt isel yno, a thŷ haf troi. Y tu ôl i'r tŷ roedd ffermdy a stablau (gyda thenant fferm).

Erbyn heddiw mae eu Lolfa gynt yn safle ein Siop Grefftau; mae'r Ystafell Filiards, yr Ystafell Fwyta a'r Gegin bellach yn orielau, tra bod ein Caffi yn eu Hystafell Frecwast. Ar y llawr cyntaf, roedd ein Hystafell Weithdy yn brif ystafell wely gynt, un tad-cu Richard, gyda'i ffenestri Ffrengig mawrion yn agor ar y balconi. Roedd ein storfa addysg yn ystafell wisgo a ddefnyddiwyd gan Jesse fel ystafell wnïo.  Ein hystafell Odyn oedd y toiled i fyny'r grisiau; tra roedd ein hystafelloedd cyfarfod gynt yn ystafelloedd gwely gyda chypyrddau dillad cerdded i mewn. Ar yr ail lawr, roedd pedair ystafell i'r gweision a'r morynion a ddefnyddiwn nawr fel swyddfeydd ac ar gyfer storio pethau.

Bu farw William Jones ym 1951 a throsglwyddwyd Llantarnam Grange i'w bedwar o blant.  Parhaodd Arthur a Jesse, a oedd ill dau yn ddi-briod, i fyw yn y tŷ nes iddo fynd ar werth ym 1952.

Mewn arwerthiant ar 21 Hydref 1952, prynwyd Llantarnam Grange am £3,900 gan y 'Cwmbran Development Corporation', sef corff a ffurfiwyd yn sgil Deddf Trefi Newydd 1946 a basiwyd i greu Trefi Newydd ledled Prydain.  Ym 1953, gosodwyd yr adeilad i'r Swyddfa Bost Gyffredinol a'i defnyddiodd fel swyddfa ddosbarthu.  Pentref bychan oedd Cwmbrân ar yr adeg honno, ac roedd angen mwy o le i ddelio â'r galw ychwanegol a ddisgwylid ar ôl adeiladu'r Dref Newydd a'i thai.

Dechreuodd y gwaith ar Ganol Tref Cwmbrân ym 1956. Adeiladwyd yr Orsaf Fysiau ar ben yr hen ardd lysiau, adeiladwyd maes parcio ar y berllan (safle'r Vue Cinema bellach), ac mae Heol Glyndŵr nawr yn rhedeg drwy'r man ble roedd y stablau.  Cymerodd Lucas Girlings y brydles ym 1958, a'i ddefnyddio fel swyddfa arlunio.  Ar ôl blynyddoedd o ddadlau, yn y diwedd gorfodwyd Girlings i ymadael ym 1964 fel y gallai'r adeilad gael ei ddymchwel i wneud lle i barc yng nghanol y dref.

Ar y funud olaf, awgrymodd Rheolwr Cyffredinol y Development Corporation bod safle Llantarnam Grange yn lleoliad perffaith ar gyfer man cyfarfod i gymdeithasau a chlybiau bach – rhywbeth a ystyriwyd yn hanfodol i dwf cymdeithasol a diwylliannol y Dref Newydd. Costiodd y gwaith adnewyddu ar yr adeilad bron £12,000 ac, ar 30 Ebrill 1966, agorwyd Clwb Cymdeithasau Llantarnam Grange yn swyddogol gydag arddangosfa o waith gan John Wright a Tom Rathmell. Sefydlwyd ymddiriedolaeth i weinyddu'r clwb a bu'r clybiau theatr, celf a chamera lleol yn cwrdd yno, a chawsai ei hurio hefyd ar gyfer arddangosfeydd celf a derbyniadau cymdeithasol.

Ym 1983, pan ddarfu'r Development Corporation, ymgymerodd ymddiriedolwyr Llantarnam Grange â'r gwaith o redeg y ganolfan. Yr Ymddiriedolwyr oedd William George Thomas, Evelyn Gertrude Brearley, William Henry James Harris, Richard Hanbury Tenison, Mathew Caradoc a Thomas Prichard.  Ers hynny, mae'r ganolfan wedi newid o fod yn fan cyfarfod ac yn oriel fechan i fod yn Ganolfan Gelfyddydau sy'n enwog yn genedlaethol gydag orielau, siop grefftau ac adran addysg. Derbyniwyd grant ym 1995 i gael to newydd ac ym 1998, derbyniom grant fawr ei hangen o bron chwarter miliwn o bunnoedd gan Uned Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Sefydliad Chwaraeon a'r Celfyddydau er mwyn ailwampio'r adeilad yn llwyr.

Ers hynny mae'r ganolfan wedi mynd o nerth i nerth, gydag ansawdd ei rhaglen arddangosfeydd yn ennill clod yn genedlaethol, a safon uchel ei rhaglen addysg yn cael ei chydnabod gan Gyngor Cwricwlwm Cymru.

Fel elusen gofrestredig rydym yn darparu rhaglen addysg eang i ysgolion, ac i bobl ifanc yn ystod gwyliau ysgol. Rydym hefyd yn rhedeg cyrsiau i oedolion ac yn gweithio gyda grwpiau cymunedol fel Cymdeithas Alzheimer i ddarparu gweithgareddau celf a chrefft. Rydym hefyd yn hurio ein hystafelloedd cyfarfod.

Ers nifer o flynyddoedd, mae Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange wedi bod yn gleient refeniw i Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym hefyd yn derbyn cyllid blynyddol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Sir Mynwy a Chynghorau Cymuned lleol.